Leave us your email address and we'll send you all the new jobs according to your preferences.

Wales & South West England Regional Officer (Part-Time)

Posted 8 days 5 hours ago by Orange Recruitment

Permanent
Part Time
Other
South Glamorgan, Cardiff, United Kingdom
Job Description
Overview

Are you based in the Musicians' Union Wales and South West England Region with a knowledge of the music industry at national and local level? Do you have the ability to provide advice and support to members across the range of regional services delivered to MU members? You could be the person we are looking for to fill our part time Wales & South West England (WSWE) Regional Officer vacancy.

The Musicians' Union (MU) is the UK trade union for musicians and represents over 36,000 musicians across the UK working in all sectors of the music business.

Responsibilities
  • Provide legal advice and assistance in conjunction with internal and external solicitors.
  • Develop and undertake initiatives, strategies and projects to maximise the recruitment and retention of members and support the music industry within the region.
  • Work within the WSWE Regional Team and collaborate with the Regional Organiser, WSWE Regional Officer (full time) and Regional Services Assistant.
  • Ensure integrity, discretion and professionalism in handling sensitive and confidential matters, including disputes and conflicts.
  • Support the regional aims and objectives of the trade union movement and contribute to the team and individual work plans.
Requirements
  • Experience providing advice in a union or legal context and ability to work with internal and external solicitors.
  • High level of integrity, discretion and professionalism; ability to handle sensitive and confidential matters.
  • Ability to work well both within a team and independently.
  • Commitment to the aims and objectives of the trade union movement.
  • Willingness to travel within the region and occasionally UK-wide with overnight stays.
Position details
  • Part time, 0.6 FTE, permanent; Cardiff-based WSWE Office with hybrid working from home; travel within the region and occasional UK-wide travel with overnight stays.
  • Salary: £51,450 per annum pro rata, plus £3,455 regional weighting pro rata; pension contribution, flexible working and development opportunities; 30 days annual leave pro rata (excluding public holidays).
  • Closing date: Monday 27 July 2026 at 12:00 Midday; Interviews in Cardiff on Wednesday 12 August 2026.
  • Application process: Applications via the MU Application Form only; CVs/resumes not accepted.
Benefits and equal opportunity

The MU is committed to an equitable music industry and inclusive workplaces. We encourage applications from diverse backgrounds, including Global Majority and Disabled applicants. The MU is a Disability Confident Employer and offers an interview to disabled applicants who meet the minimum criteria for this role. We invest in ED&I initiatives and strive for teams that reflect our membership.

Regional information

The MU's Wales and South West England Regional Office supports musicians and creative workers across the region, including Cardiff, Swansea, Wrexham, Bangor, Bristol, Bath, Exeter, Plymouth, Cornwall and Dorset, with knowledge of local industry to advise on contracts, freelance rights, legal matters, and live music regulations.

Contact

To learn more or arrange a meeting with your local team, please visit our website and use the application form.

Welsh language section

Ydych chi wedi'ch lleoli yn Rhanbarth Cymru a De-orllewin Cymru Undeb y Cerddorion ac yn meddu ar wybodaeth am y diwydiant cerddoriaeth ar lefel genedlaethol a lleol? Oes gennych chi'r gallu i roi cyngor a chymorth i aelodau ar draws yr amrywiaeth o wasanaethau rhanbarthol sy'n cael eu darparu i aelodau Undeb y Cerddorion? Efallai mai chi yw'r person rydyn ni'n chwilio amdano i lenwi ein swydd ran-amser fel Swyddog Rhanbarthol Cymru a Deorllewin Lloegr.

Undeb y Cerddorion yw undeb llafur y DU ar gyfer cerddorion, ac mae'n cynrychioli dros 36,000 o gerddorion ledled y DU sy'n gweithio ym mhob sector o'r busnes cerddoriaeth.

Bydd Swyddog Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr (rhan-amser) yn gweithio o fewn Tîm Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr, sy'n cynnwys Trefnydd Rhanbarthol Cymru a Deorllewin Lloegr, Swyddog Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr (llawn-amser) a'r Cynorthwyydd Gwasanaethau Rhanbarthol. Trefnydd Rhanbarthol Cymru a Deorllewin Lloegr yw'r rheolwr llinell ar gyfer y swydd.

Swydd ran-amser, barhaol, 0.6 FTE yw hon, felly gallai gyd-fynd â chyfrifoldebau neu ymrwymiadau eraill lle bo'n addas. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus a'r rheolwr llinell yn cytuno ar y dewis o ddyddiau / oriau gweithio ymlaen llaw. Mae'r swydd yn rhan o Swyddfa Cymru a De-orllewin Cymru yng Nghaerdydd, a gellir gweithio'n hybrid gartref. Bydd angen teithio o fewn y rhanbarth, sy'n golygu aros dros nos o bryd i'w gilydd, ac ambell waith y flwyddyn bydd angen teithio ledled y DU ac aros dros nos.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cyngor a chymorth cyfreithiol ar y cyd â chyfreithwyr mewnol ac allanol. Bydd ganddo lefel uchel o onestrwydd, disgresiwn a phroffesiynoldeb, a bydd yn gallu ymdrin â materion sensitif a chyfrinachol gan gynnwys anghydfodau / gwrthdaro mewn ffordd briodol. Bydd hefyd yn datblygu ac yn ymgymryd â mentrau, strategaethau a phrosiectau i recriwtio a chadw cymaint o aelodau â phosibl, a chefnogi'r diwydiant cerddoriaeth o fewn y rhanbarth.

Mae angen i'r ymgeisydd allu gweithio'n dda o fewn y tîm ac ar ei ben ei hun, a bod wedi ymrwymo i nodau ac amcanion cyffredinol mudiad yr undebau llafur hefyd.

Rydyn ni'n cynnig cyflog sylfaenol o £51,450, pro rata, ynghyd â lwfans pwysoli rhanbarthol o £3,455, pro rata, yn ogystal â buddion staff gwych gan gynnwys cyfraniad tuag at bensiwn personol, gweithio'n hyblyg a mynediad at hyfforddiant a datblygiad parhaus. Y gwyliau Blynyddol ar gyfer y swydd hon yw 30 diwrnod, pro rata, ac eithrio gwyliau cyhoeddus.

Am ffurflen gais a swydd-ddisgrifiad llawn, ewch i'n gwefan.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 27 Gorffennaf 2026 am 12:00 hanner dydd. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yn Swyddfa Cymru a De-orllewin Lloegr yng Nghaerdydd, ddydd Mercher 12 Awst 2026.

Sylwer: Dim ond drwy ddefnyddio ein Ffurflen Gais y derbynnir ceisiadau - nid ydym yn derbyn CVs/Crynodebau.

Cenhadaeth Undeb y Cerddorion yw creu diwydiant cerddoriaeth teg, lle gall pob cerddor ffynnu. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud yr un peth gyda'n gweithleoedd.

Wrth i'n haelodaeth ddod yn fwy amrywiol, rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod ein timau'n adlewyrchu ein haelodau.

Yn Undeb y Cerddorion, rydyn ni'n croesawu pobl o safbwyntiau, profiadau a chefndiroedd amrywiol. Byddwch yn cael eich annog i fod yn chi'ch hun, a bydd gennych y rhyddid i ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol mewn gweithle cefnogol a grymusol.

Gwell gwneud na dweud, felly er mwyn hyrwyddo ein diwylliant cynhwysol, rydyn ni'n buddsoddi mewn sawl menter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gallwch chi ddysgu mwy am ein gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.

Rydyn ni'n annog pobl o bob rhan o'n cymuned i wneud cais am swyddi gyda ni. Rydyn ni'n croesawu ymgeiswyr o'r Mwyafrif Byd-eang ac ymgeiswyr Anabl yn arbennig oherwydd bod y cymunedau hyn wedi'u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.

Mae Undeb y Cerddorion yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig cyfweliad i bobl anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd hon.

Email this Job